Addysg, Cyrsiau a Hyfforddiant
Cyrsiau Presennol
Mae'r cyrsiau canlynol yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Dechnoleg Antur Nantlle ar hyn o bryd:
Gweithdy Digidol
Cyrsiau cyfrifiaduron i ddechreuwyr sydd eisiau dysgu rhywfaint o sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol, ac i ddefnyddwyr canolradd sydd eisiau gwella eu sgiliau a datblygu rhai newydd. Defnyddiwch ein cyfrifiaduron ni neu dewch â'ch laptop neu iPad a gwneud defnydd o'r wi-fi.
Pryd? Bob dydd Mawrth
Ble? Canolfan Dechnoleg Antur Nantlle (uwchben Llyfrgell Penygroes) LL54 6LR.
Lefel: Dechreuwyr a Chanolradd
Amser:
- 10.00 - 12.00
Iaith addysgu: Cymraeg a Saesneg
Cwrs dan arweiniad: Addysg Oedolion Cymru
Rhagor o wybodaeth: 01286 882688
Llogi'r ystafell hyfforddiant
Mae'r ystafell hyfforddiant gyfrifiadurol ar gael i unigolion, busnesau, grwpiau a sefydliadau o bob math i'w defnyddio ar gyfer cynnal cyfarfodydd, arddangosfeydd, cyrsiau, hyfforddiant a mwy.
Mae 12 o gyfrifiaduron yn yr ystafell hyfforddiant ynghyd a chysylltiad sydyn i'r wê. Mae taflunydd ar gael i'w ddefnyddio yn yr ystafell yn rhad ac am ddim, ynghyd â bwrdd gwyn.
Mae ein telerau llogi yn rhesymol iawn a thrwy gydweithio efo busnesau arlwyo lleol gallwn hefyd ddarparu cinio ysgafn, bwffe, tê a choffi, ayb. ar eich cyfer fel bo'r angen.