Croeso i wefan Antur Nantlle Cyf

Antur Nantlle yw'r cwmni cymunedol sy'n gweithio er lles ardal Dyffryn Nantlle yng Ngwynedd, Gogledd Cymru.

Antur Nantlle Cyf - Gweithio er lles Dyffryn NantlleSefydlwyd Antur Nantlle Cyf yn 1991 fel cwmni cymunedol i weithio er lles Dyffryn Nantlle a'r ardaloedd cyfagos. Nod y cwmni ydyw datblygu prosiectau a denu grantiau i’r ardal fydd yn arwain at ddatblygiad economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol. Mae’r Antur yn barod ac yn awyddus i weithio gyda phartneriaid eraill i gyrraedd y nod, trwy chwilio am gyfleon newydd, hyrwyddo menter ymhlith pobl leol a datblygu cyfleodd i greu swyddi.

Lleolir swyddfa’r Antur yn Nhŷ Iorwerth, uwchben Y Banc yng nghanol Penygroes. Rydym yn gwasanaethu trigolion Dyffryn Nantlle a’r cylch trwy gynnig gwasanaeth eang i’r cyhoedd. Mae yma ddrws agored i drigolion lleol ac ymwelwyr i ddod i chwilio am wybodaeth leol, defnyddio’r cyswllt rhyngrwyd cyflym, gwasanaeth llun gopio, lamineiddio a llawer mwy. Mae ystafell hyfforddiant gyfrifiadurol y Ganolfan yn cynnig ystod eang o gyrsiau cyfrifiadurol a sgiliau digidol mewn cydweithrediad a darparwyr hyfforddiant.

Mae gennym nifer o unedau busnes swyddfeydd a siop yn yr ardal ac mae gwarchod ein tenantiaid yn un o’n blaenoriaethau pwysicaf.

Eisiau gwybod mwy?

Am ragor o wybodaeth am ein gwaith neu os oes gennych ddiddordeb mewn cydweithio er lles ardal Dyffryn Nantlle, neu â diddordeb mewn rhentu swyddfa neu uned waith am delerau rhesymol, yna cysylltwch â ni.