Mynd Amdani

Crofna Benthyciadau Di-Lôg i Fusnesau Lleol

Yn 2023, mewn cydweithrediad gyda Menter Môn, sefydlodd yr Antur Mynd Amdani - cronfa benthyciadau lleol i helpu pobl sefydlu neu ddatblygu busnes yn ardal Dyffryn Nantlle.

Ein nôd yw efelychu llwyddiant cronfa benthyciadau Be Nesa Llŷn ble mae’r arian wedi cael ei ailgylchu gymaint o weithiau, nes bod dros £70,000 wedi cael ei ddosbarthu i 15 busnes a menter gymdeithasol yn yr ardal honno.

Mae Mynd Amdani yn gronfa sy’n benthyg arian i bobl gychwyn neu ddatblygu busnes yn Nyffryn Nantlle. Rydym yn cynnig benthyciad di-log o hyd at £5,000 i bobl leol sy’n awyddus i gychwyn neu ddatblygu busnes yn y Dyffryn.

Rydym yn cydweithio â’r Hwb Menter i gynnig cymorth busnes i ymgeiswyr gyflwyno cais i’r panel.

Os ydych yn awyddus i gyflwyno cais, cysylltwch â robat@anturnantlle.com / 01286 882688 am sgwrs anffurfiol.

Lansiad y Cynllun

Rownd 1

Bu cryn dipyn o ddiddordeb yn Rownd 1 a bu modd i ni gynnig cefnogaeth o £19,960 i bedwar busnes:

  • Brâf, Dinas Dinlle
  • Mari's Old School Cakes
  • Iogis Bach
  • Sensori Sara

Rownd 2

Mae ail rownd y gronfa bellach ar agor a chyfle i wneud cais am fenthyciad o £5,000 ar gael unwaith eto.

Os ydych yn awyddus i gyflwyno cais, cysylltwch â robat@anturnantlle.com / 01286 882688 am sgwrs ac i dderbyn pecyn ymgeisio.