Cefndir Antur Nantlle Cyf

Sefydlwyd Antur Nantlle yn 1991 fel cwmni cyfyngedig ddim i wneud elw, gan grŵp o bobl leol i weithio er lles ardal Dyffryn Nantlle a’r cylch. Nod yr Antur oedd ymgyrraedd at adfywiad economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn yr ardal gan roi blaenoriaeth i hyrwyddo menter ymhlith pobl leol a datblygu cyfleodd i greu swyddi. Datblygodd y cwmni ar draws y blynyddoedd ac erbyn heddiw mae’r seiliau yn gadarn iawn.

Drwy ddenu grantiau o ffynonellau megis Cyngor Gwynedd, Awdurdod Datblygu Cymru, Llywodraeth y Cynulliad ac eraill, a hefyd drwy fanteisio ar fenthyciadau Cyllid Cymru, mae’r Antur wedi llwyddo i wneud gwahaniaeth mawr yn Nyffryn Nantlle.

Mae’r Antur yn falch o gyflwyno’r rhestr isod fel arwydd o rhai o lwyddiannau’r cwmni ers ei sefydlu.

Canolfan Fenter Dyffryn Nantlle (1991)

Dyma brosiect cyntaf Antur Nantlle a gyflawnwyd drwy gefnogaeth ariannol gan Gyngor Bwrdeistref Arfon a’r Swyddfa Gymreig i brynu ac addasu hen ddepo’r Cyngor ym Mhenygroes yn unedau busnes bychan.Rhoddodd hyn gyfle i bobl leol gychwyn mewn busnes ar gostau cychwynnol isel. Ynghyd a’r saith uned mae yma hefyd ddwy swyddfa ac iard fechan.

Canolfan Dechnoleg Antur Nantlle (1997)

Ym 1997 bu’r Antur yn flaengar yn sefydlu Canolfan Dechnoleg Antur Nantlle mewn hen adeilad banc Barclays yn Heol y Dŵr, Penygroes. Dyma Ganolfan sydd wedi gwasanaethu trigolion Dyffryn Nantlle a thu hwnt i ddatblygu sgiliau TGCh a digidol a chysylltu Dyffryn Nantlle a’r byd mawr trwy’r wê. Cyfunwyd y llyfrgell leol yn rhan o’r adeilad a thrwy hyn gynnig lleoliad cyfleus a chanolig i bawb. Mae swyddfa Antur Nantlle wedi ei lleoli ar lawr cyntaf y Ganolfan Dechnoleg.

Dyma’r patrwm a ddefnyddiwyd gan Gyngor Gwynedd wrth iddynt baratoi cynllun i sefydlu Canolfannau Dysgu Gydol Oes mewn ardaloedd eraill, ac mae'r Ganolfan yn parhau i gynnal cyrsiau cyfrifiadurol a chynnig cyswllt wi-fi am ddim i'r defnyddwyr er budd trigolion Dyffryn Nantlle.

Siop / Gweithdy (1999)

Roedd gweld ffenest siop ar ôl ffenest siop yn diflannu o strydoedd ein pentrefi yn peri pryder i’r Antur. Yn 1999 daeth cyfle i brynu siop wag yn Stryd yr Wyddfa a diogelu ffenest siop ym Mhenygroes. Dyma gynllun arloesol oedd yn cynnig gweithdy yn y cefn ynghyd a ffenestr siop i werthu cynnyrch y tenant.

Tŷ Iorwerth, Penygroes (2002)

Roedd dau lawr uchaf adeilad banc yr HSBC wedi bod yn wag ers blynyddoedd ac yn dirywio. Gwelodd Antur Nantlle gyfle i ddiwallu rhywfaint o’r gofyn am swyddfeydd yn lleol trwy chwilio am gyllid i brynu’r adeilad gan yr HSBC ac addasu’r ddau lawr uchaf yn saith swyddfa safonol i’w gosod sydd yn cyd-fynd a chanllawiau newydd mynediad i’r anabl.

Erbyn heddiw mae’r swyddfeydd i gyd yn llawn a’r banc HSBC yn dal i weithredu ar y llawr isaf.

Y Barics, Nantlle (2003)

Prynodd Antur Nantlle y safle hanesyddol hon gan yr Awdurdod Datblygu oedd wedi adnewyddu’r adeiladau i safon uchel. Mae yma chwe uned sydd yn addas ar gyfer busnes a chrefft ac mae Antur Nantlle ar hyn o bryd yn gwneud gwaith ymchwil i sefydlu Canolfan Awyr Agored ar y safle.

Mae’r Antur wedi cydweithio gyda grŵp cymunedol Llys Llywelyn i addasu Uned 2 yn ganolfan gymunedol i drigolion Nantlle. Mae’r Uned ar ei newydd wedd yn fan cyfarfod i gymdeithasau lleol ac yn ddelfrydol ar gyfer gweithgareddau plant, dosbarthiadau ayb.

10 Heol y Dŵr, Penygroes (2004)

Yn 2004 daeth cyfle i Antur Nantlle brynu adeilad yr hen Siop 22, 10 Heol y Dwr gan Awdurdod Datblygu Cymru. Mae siop / uned ar y llawr isaf a thair swyddfa ar y llawr cyntaf. Mae’r adeilad mewn man cyfleus ym mhrif stryd y pentref ac mae Antur Nantlle wedi bod yn falch o’r cyfle i gadw’r adeilad at ddefnydd busnes.

Canolfan Awyr Agored Rhyd Ddu (2015)

Bu'r Antur yn ymchwilio potensial y diwydiant twristiaeth awyr agored ers rhai blynyddoedd, ac er gweithio'n galed ar y cynllun nid oedd adeilad addas yn yr ardal i fod yn ganolbwynt i'r diwydiant. Pan ddaeth y cyfle ar ddechrau 2015 i gydweithio gyda Chyngor Gwynedd i achub dyfodol canolfan Rhyd Ddu, adeilad hanesyddol bwysig i'r ardal gan mai yma ganwyd a magwyd y prifardd T.H. Parry-Williams, aeth yr Antur amdani. Ar droed yr Wyddfa a Chrib Nantlle, mae'r ganolfan mewn lleoliad perffaith ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau awyr agored. Ein nod yw creu swyddi lleol cynnaladwy, a datblygu elfen iaith, diwylliant a hanesyddol y ganolfan bwysig i greu pecynnau cwbl unigryw.

Mae rhagor o wybodaeth am Ganolfan Awyr Agored Rhyd Ddu ar gael ar www.canolfan-rhyd-ddu.cymru, ble gallwch drefnu dod i aros drwy ein teclyn bwcio ar-lein.

Gerlan, 28 Heol y Dŵr, Penygroes (2015)

Daeth cyfle i'r Antur, drwy Gwmni Adwy, i brynu yr adeilad hwn oedd wedi ei foderneiddio fel rhan o gynllun Ardaloedd y Llechi rhai blynyddoedd yn ôl. Mae'r adeilad yn cynnwys nifer o swyddfeydd a gofod storfa ac ers Gaeaf 2015 mae'r Antur wedi bod yn berchen ar yr adeilad ac yn falch iawn o gael gwasanaethu'r tenantiaid â etifeddwyd gan Gwmni Adwy fel rhan o'r pryniant.

Capel Salem, Talysarn (2015)

Hen gapel wedi ei droi'n 11 o unedau gwaith bychan a phrysur, yn cynnwys maes parcio yw Gweithdai Capel Salem. Yn yr un modd yn union â'r adeilad uchod (Gerlan) daeth cyfle i'r Antur i brynu'r adeilad yma gan Gwmni Adwy ac aeth popeth trwodd yn ystod Gaeaf 2015. Mae'r adeilad yn gartref i nifer o fusnesau gwahanol, ac yn cynnig lle braf iawn i weithio am delerau rhesymol iawn.

Unedau A9-A12, Ystâd Ddiwydiannol Penygroes (2016)

Mae'r Antur yn awyddus i ddiogelu gofod gwaith i fusnesau lleol yn yr ardal a phan ddaeth y cyfle i brynu yr unedau yma ar y Stâd Ddiwydiannol gan Gyngor Gwynedd, aethom ati i drefnu benthyciad i'r pwrpas yma. Mae'r bloc yma yn cynnwys pedair uned ddiwydiannol a gofod parcio i'r tenantiaid ac yn safle hwylus iawn sy'n gartref i bedwar busnes gwahanol.

Y Banc, 39 Heol y Dŵr, Penygroes (2018)

Ers i’r banc olaf ym Mhenygroes gau ar Fehefin 27ain 2014, bu Antur Nantlle Cyf yn gweithio ar gynllun i roi bywyd newydd i’r adeilad, ac hefyd i gefnogi ein gwaith adfywio ehangach er lles Dyffryn Nantlle â’r cylch.

Agorodd y Banc ar ei newydd-wedd ym mis Medi 2018 gyda gofod cyfoes sydd yn cynnwys siop, deli, lle chwarae plant a hwb i’r gymuned a’r economi leol. Mae’r deli yn fenter sy’n cael ei redeg fel busnes annibynnol yn gweini amrywiol fwydydd ffres a danteithion blasus. Yma hefyd ceir nifer o gynnyrch a chrefftau lleol o safon yn y siop a lle chwarae meddal i blant bach. Mae'n hwb cymunedol yng nghanol y Dyffryn sy'n denu ymwelwyr o bell ac agos i'r ardal.

Parc Menter Dyffryn Nantlle (2023)

Yn y blynyddoedd diweddar mae nifer o adeiladau a safleoedd masnachol yng NgogRydledd Cymru wedi cael eu prynu gan gwmniau allanol a rhai rhenti wedi codi i lefelau anghynaladwy fel canlyniad. Felly, pan cododd y cyfle i ddiogelu gofod gwaith arall i fusnesau lleol yn yr ardal drwy brynu yr unedau yma mewn lleoliad strategol bwysig ar y Stâd Ddiwydiannol gan Gwasg Dwyfor (Eiddo) Cyf, aethom ati i drefnu benthyciad i'r pwrpas yma. Mae'r safle yma ar y fynedfa i'r Stâd Ddiwydiannol yn cynnwys wyth uned ddiwydiannol canolig a mawr eu maint a gofod parcio i'r tenantiaid, ac yn safle hwylus iawn sy'n gartref i wyth busnes gwahanol.

Rydym wedi cychwyn ar raglen waith sylweddol i ddiogelu, cynnal a gwella'r arlwy ar y safle yma â fydd yn cynnwys mesurau effeithlonrwydd ynni er mwyn dod â buddion uniongyrchol i ddefnyddwyr yr unedau a'u cwsmeriaid.

 

Cynnig Gwasanaeth

Mae swyddfa’r Antur wedi ei leoli uwchben Y Banc yn Swyddfa 8, Tŷ Iorwerth, Heol y Dŵr, Penygroes. Dros y blynyddoedd rydym wedi cynnig nifer o wasanaethau megis defnydd cyfrifiaduron i'r gymuned, ystafell hyfforddiant gyfrifiadurol, cyswllt i’r we, llun gopïo, gwasanaethau i’r di-waith a chydweithio gydag amryw o gyrff eraill sy'n rhoi budd i drigolion yr ardal. Byddwn hefyd yn arwain pobl ymlaen at eraill all fod o gymorth iddynt megis gwasanaethau cymorth busnes. Mae’r Antur yn cynnig gwasanaeth galw i mewn ac yn bwynt gwybodaeth sydd yn ganolog i’r ardal gyfan.

Yn 20 Heol y Dŵr mae Llyfrgell Penygroes ers 1997 sydd yn wasanaeth hollbwysig sy'n rhad ac am ddim i bob un o drigolion y Dyffryn ei ddefnyddio.

Gyda chefnogaeth arian y Loteri Genedlaethol fe weithredodd yr Antur gynllun i hybu gwirfoddolwyr yn yr ardal dros gyfnod o 3 blynedd. Daeth y cynllun hwn a’r cwmni i gyswllt uniongyrchol gyda phob grŵp, cymdeithas, mudiad gwirfoddol ac unigolion oedd yn gwirfoddoli yn yr ardal, a chafodd nifer fawr fudd o’r prosiect.

Mae’r Antur wedi gweithredu fel Corff Atebol i Bartneriaeth Talysarn a Nantlle dan raglen Llywodraeth y Cynulliad - Rhoi Cymunedau’n Gyntaf, ac fel rhan o’u swyddogaeth wedi cymeryd cyfrifoldeb cyflogwr dros holl staff y Bartneriaeth.

Heddiw, mae’r Antur yn cynnig nifer o unedau busnes, swyddfeydd, siopau, iard, ystafell hyfforddiant gyfrifiadurol, ystafell gyfarfod ac un fflat i’w gosod yn yr ardal. Yr ydym yn falch iawn o gael dweud ein bod yn paratoi mannau gwaith i oddeutu 140 o bobl yn Nyffryn Nantlle.