Swyddfeydd ac Unedau Gwaith i'w Gosod yn Nyffryn Nantlle

Mae gan Antur Nantlle nifer o swyddfeydd, siopau ac unedau i'w gosod am delerau rhesymol iawn ym Mhenygroes a Dyffryn Nantlle.

20 Heol y Dŵr, Penygroes

Canolfan Dechnoleg Antur Nantlle

Mae'r gyn Ganolfan Dechnoleg wedi ei lleoli yng nghanol pentref Penygroes ac yn gartref i gwmni cyfreithiol Lloyd Evans Hughes ar y llawr cyntaf, a chwmni cwnsela Swyn Angharad Cwnselydd ar y llawr gwaelod. Mae'r Llyfrgell hefyd ar y llawr gwaelod yn denant i ni yn yr adeilad ers 1997 ac rydym yn falch o allu cydweithio i gadw'r gwasanaeth pwysig yma yn yr ardal.

Yma, o 1997 am dros ugain mlynedd, darparwyd cannoedd o gyrsiau a sesiynau hyfforddiant yn y ganolfan dechnoleg gyntaf o'i fath. Datblygiad arloesol ar y pryd â arweiniodd at sefydlu nifer o ganolfannau dysgu gydol oes ar hyd a lled y sir.

10 Heol y Dŵr, Penygroes (Siop 22)

Siop 22 / 10 Heol y Dŵr, PenygroesMae 10 Heol y Dŵr (Siop 22 fel y ceir ei adnabod yn lleol) yn adeilad braf iawn sydd ar hyn o bryd yn gartref i 4 busnes lleol.

Ar y llawr cyntaf mae swyddfa Cymdeithas Tai Gwynedd sydd yn darparu cartrefi i bobl leol ers dechrau'r 1970au, a Dylunio Gringo - arbenigwyr ar greu gwaith dylunio, brandio a gwefannau o safon uchel.

Ar y llawr gwaelod, mae ail swyddfa cwmni cyfreithiol Lloyd Evans Hughes.

Mae'r swyddfeydd werth eu gweld, ac mae Antur Nantlle yn falch o allu cadw defnydd masnachol ar yr adeilad - yn enwedig gydag amrywiaeth o wasanaethau yn cael eu cynnig o dan un to.

 

 

 

 

39 Heol y Dŵr, Penygroes (Tŷ Iorwerth)

Tŷ Iorwerth, PenygroesMae 39 Heol y Dŵr (Tŷ Iorwerth) yn un arall o adeiladau pwysicaf Dyffryn Nantlle. Yn un o'r hynaf ym Mhenygroes, mae'r adeilad yn ganolbwynt masnachol pwysig yn yr ardal.

Mae'r llawr gwaelod, sef cyn fanc yr HSBC, wedi ei drawsnewid i fod yn Ddeli yn gweini danteithion blasus o bob math, siop cynnyrch lleol sy'n cael ei redeg fel co-op gan gynhyrchwyr lleol i roi budd uniongyrchol i'r economi leol, a lle chwarae plant i roi rhywle cyfforddus a diogel i rieni â'u plant gael mwynhau ynghanol y pentref, a'r cyfan yn cael ei redeg gan Cegin Ceri.

Ar y ddau lawr uchaf ein tenantiaid yw Llinell Gymorth Byw Heb Ofn, Rhys Grail ac Ymgyrch Nicaragua Cymru. Yma hefyd mae swyddfa Antur Nantlle Cyf ar y llawr cyntaf

Mae Tŷ Iorwerth yn adeilad braf i weithio ynddo, ac yn cynnig cyfleusterau megis lifft er mwyn cynnig mynediad i bawb.

35 Stryd yr Wyddfa, Penygroes (Siop / Gweithdy)

Siop a Gweithdy, PenygroesEin tenant yn siop a gweithdy Antur Nantlle ar Stryd yr Wyddfa, Penygroes yw Llun Mewn Ffrâm.

Mae'r oriel, siop a gweithdy yn un o brif siopau Penygroes ac yn denu pobl yma o bell i weld y gwaith celf a chrefftau unigryw sydd ar gael.

Mae'r safle yma yn galluogi'r tenant i wneud eu gwaith yn y gweithdy mawr yn y cefn, a gwerthu'r cynnyrch yn y tu blaen.

Mae Antur Nantlle yn falch iawn o allu cadw ffenest siop yn agored ym Mhenygroes, a chynnig tenantiaeth i berson lleol redeg busnes oddi yma.

Fflat, 35 Stryd yr Wyddfa, Penygroes

Fflat Antur NantlleMae fflat yr Antur ar Stryd yr Wyddfa yn cynnig cartref i berson lleol ar adeg lle mae'r farchnad dai yn anoddach nag erioed.

Rydym yn falch o allu cynnig lle i fyw o safon i berson lleol, wedi i ni ail-wneud y fflat i gyd ychydig o flynyddoedd yn ôl.

Lleolir y fflat mewn lle cyfleus iawn yn y pentref ac mae'n le braf iawn i fyw.

 

 

 

 

Canolfan Fenter Dyffryn Nantlle, Penygroes

Canolfan Fenter Dyffryn NantlleMae Canolfan Fenter Dyffryn Nantlle yn le hynod o boblogaidd i gychwyn a datblygu busnes, ac wedi bod yn gartref i nifer o fusnesau bychan dros y blynyddoedd. Mae'r safle yn cynnwys unedau diwydiannol ysgafn, swyddfeydd ac iard.

Ar hyn o bryd, mae pob uned yn llawn gyda Torwoods yn Uned 1, Andrew Roberts Cyf (gwasanaethau plymio) yn Uned 2, siop bysgod Gwynedd Aquatics yn Uned 3 a Swyddfa 2, Celtic Auto Parts yn Unedau 4, 5, 6 a 7, a chwmni Sgaffaldiau M Jones yn Swyddfa 1. Ein tenant yn yr Iard yw Weldio AWJ.

 

Y Barics, Nantlle

Y Barics, NantlleMae'r Barics yn safle hanesyddol yn Nyffryn Nantlle, ac yn leoliad perffaith ar gyfer busnesau crefft neu at ddefnydd diwydiannol ysgafn.

Mewn lleoliad bendigedig ym mhentref Nantlle, gyda'r olygfa orau un o'r Wyddfa ar garreg y drws, mae'r Barics yn cynnwys pum uned waith atyniadol.

Yn adeiladau cerrig yn cynnwys nifer o nodweddion hanesyddol, mae pob un o'r unedau hyn gyda'i chymeriad ei hun.

Ein tenantiaid yma yn y Barics ar hyn o bryd yw: Poblado Coffi - crefftwyr coffi Cymru sy'n cynnig dewis o’r ffa coffi gorau â chant eu rhostio yn Nyffryn Nantlle i ryddhau’r blas gorau posib; Llys Llywelyn - canolfan gymunedol ar gyfer pentref Nantlle lle cynhelir nifer o weithgareddau; SAIB Yoga stiwdio ioga; Canhwyllau Eryri, gweithdy a siop ganhwyllau ac anrhegion o safon uchel i'r cartref; a Gwaith Coed Gwyrdd - gweithdy gwaith coed bychan yn cynnig cyrsiau a hyfforddiant, yn ogystal â chreu darnau defnyddiol a hardd o waith coed.

Fel pob un o'n safleoedd eraill, rydym yn hynod o falch o allu cynnig tenantiaeth i bobl leol ac i wneud ein rhan i gadw busnesau a mentrau bychan i fynd ac i ffynnu.

Capel Salem, Talysarn

Hen gapel wedi ei droi yn 11 o unedau gwaith bychan yn Nhalysarn yw Capel Salem, ble'r ydym yn falch o ddarparu cartref i nifer o fusnesau unigryw lleol.

Yma, mae Rauni Higson yn creu celf arian o'r safon uchaf sy'n mynd i orielau ar draws y byd, mae Cwmni Curiad Cyf yn cyflenwi llyfrau cerddoriaeth Cymraeg, mae Ellen Thorpe yn cynhyrchu gemwaith gwydr unigryw, mae Peter Howlett yn cynnal cyrsiau creu offerynau ac ei hun yn gwneud ukuleles â llaw â'u gwerthu i gwsmeriaid ar hyd a lled y wlad. Yma hefyd mae stiwdio Lluniau Jordan Christina Photography yn cynhyrchu nwyddau ffotograffig o bob math yn ogystal â Gemwaith Sara Lois sy'n dylunio a chreu modrwyau priodas hollol unigryw. Dyma hefyd gartref cwmni Wekiwool, busnes sy'n cynhyrchu gwlân a chwmni brodwaith Plains of Imagination sy'n cynhrchu dilladau o bob math.

28 Heol y Dŵr, Penygroes (Gerlan)

Dyma adeilad sydd wedi ei adnewyddu i safon uchel yng nghanol Penygroes, ac sydd yn cynnwys nifer o swyddfeydd a storfeydd.

Elusen Y Bont yw ein tenant yn Gerlan, 28 Heol y Dŵr, Penygroes. Yma maent yn darparu amrediad o wasanaethau hanfodol er mwyn ateb gofynion a darparu cefnogaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sydd, am ba bynnag resymau, yn cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd neu mewn perygl o gael eu gwahanu.

Unedau A9-A12, Stâd Ddiwydiannol Penygroes

Pedair uned ddiwydiannol ysgafn ar Stâd Ddiwydiannol Penygroes yw Unedau A9-A12, mewn lleoliad cyfleus iawn ar gyrion y pentref a'r brif ffordd rhwng Caernarfon a Phorthmadog. Mae'r stâd hon ymysyg y mwyaf poblogaidd yng Ngwynedd, ac rydym yn falch o allu cynnig gwasanaeth i fusnesau lleol yma.

Ein tenantiaid presennol yn yr unedau yw Bragdy Lleu - bragdy yn cynhyrchu cwrw go-iawn yn seiliedig ar gymeriadau'r Mabinogi, y chwedlau enwog Cymreig sydd wrth gwrs â'u gwreiddiau yn ardal Dyffryn Nantlle; Brodwaith Cymru Embroidery - cwmni sy'n darparu gwasanaethau brodwaith ar gyfer dillad ysgol, dillad gwaith a llawer mwy yn yr ardal ers blynyddoedd; gweithdy Weldio AWJ Welding - cwmni creu gwaith metel o bob math yn cynnwys gwaith ffensio, gwasanaethu trelars a chodi siediau amaethyddol; a Grŵp Cynefin - yr asiantaeth dai sydd yn gyflogwr pwysig yn ardal Dyffryn Nantlle a Gogledd Cymru yn gyffredinol.

Parc Menter Dyffryn Nantlle, Stâd Ddiwydiannol Penygroes

Wyth uned ddiwydiannol ysgafn ar Stâd Ddiwydiannol Penygroes yw Unedau 1-8, mewn lleoliad cyfleus ar y fynedfa i'r stâd ddiwydiannol ym Mhenygroes. Rhain yw'r unedau mwyaf sydd gan yr Antur ar osod i fusnesau lleol.

Ein tenantiaid presennol yn yr unedau yw Axis Precision, Partiau Ceir Celtic Auto Parts, City Cabs Bangor, Moduron Dyffryn Nantlle Motors, Motifwear, Bragdy Lleu, Peris & Corr a Becws Homestyle Bakery.

 

 

Ffurflenni cais

Os oes gennych chi ddiddordeb yn unrhyw un o'n swyddfeydd, siopau neu unedau gwaith, mae croeso i chi lenwi ffurflen gais a'i dychwelyd atom.