Parc Menter Dyffryn Nantlle

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac â weinyddir gan Gyngor Gwynedd.

Diogelu'r presennol ac adeiladu tuag at y dyfodol

Roedd yr Antur eisoes wedi diogelu perchnogaeth hen safle Gwasg Dwyfor ar Stâd Ddiwydiannol Penygroes gyda benthyciad masnachol hirdymor gan y Charity Bank, ond i wireddu ein hamcanion o wella perfformiad ynni yr unedau, a gwneud gwelliannau i'r unedau â'r stâd hon, yn ogystal â Chanolfan Fenter Dyffryn Nantlle - prosiect cyntaf un yr Antur yn ôl ym 1991 - roedd yn rhaid cael cymorth ariannol. Daeth y cymorth hynny yn dilyn cais llwyddiannus i Gyngor Gwynedd ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn brif biler agenda Hybu Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer ei fuddsoddi’n lleol erbyn Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y DU, buddsoddi mewn cymunedau a lle, gan gynorthwyo busnesau lleol, a phobl a sgiliau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy

Mae llwyddiant ein cais i'r gronfa uchod yn golygu y gallwn symud ymlaen gyda'r gwaith o:

  1. Wneud gwelliannau hanfodol i unedau presennol, gwella eu heffeithlonrwydd ynni, gosod mesurau ynni adnewyddol a sicrhau eu bod yn addas at ddefnydd busnesau lleol i greu a chynnal swyddi am flynyddoedd i ddod;
  2. Sicrhau hawl cynllunio i godi unedau newydd y mae galw uchel amdanynt drwy’r sir er mwyn creu rhagor o gyfleoedd gwaith yma yn Nyffryn Nantlle.

Drwy ddiogelu, gwella ac uwchraddio unedau busnes presennol byddwn yn diogelu nifer o fusnesau a swyddi presennol. Bydd cyfanswm y gofod busnes wedi ei wella yn 2,000 medr sgwâr. A thrwy osod mesurau effeithlonrwydd ynni, bydd y busnesau a’r swyddi hyn yn fwy hyfyw a gwydn yn ogystal a chyfrannu yn sylweddol at leihad effaith newid hinsawdd.

Bydd hyn oll yn rhoi gwell cyfleusterau i drigolion y Dyffryn a gwell gwedd i ran allweddol o brif safle busnes yr ardal gan gynyddu ei apêl ac agor y drws i ddatblygiadau cadarnhaol pellach a buddsoddiadau newydd o’r herwydd.

Fel pob un o brosiectau'r Antur, creu'r amodau i unigolion fyw, gweithio a llwyddo yn lleol sydd wrth wraidd y cynllun hwn.

Ateb y galw

Mae ysbryd entrepreneuriaeth cryf yn Nyffryn Nantlle ac i’r perwyl hwn mae nifer uchel ar gyfartaledd o bobl yn cychwyn a rhedeg busnesau eu hunain yma. Mae’r Antur ei hun yn sbardun i’r gweithgarwch hynny drwy ein amrywiol gynlluniau yn cynnwys cynnig cyfnodau di-rent i fusnesau newydd sy’n gweithio yn ein adeiladau, rhenti a thelerau rhesymol yn gyffredinol i bawb, darparu gwasanaethau cefnogol a hyd yn oed ein cynllun benthyciadau newydd – “Mynd Amdani” sy’n rhoi benthyciadau di-log i fusnesau lleol i’w galluogi i sefydlu / tyfu.

Buddion

Caiff y prosiect effaith llesol ar y buddiolwyr a chymuned ehangach y sir a rhanbarth gogledd Cymru drwy:

  • greu a diogelu swyddi;
  • wella safon adeiladau gwaith presennol fel eu bod yn addas i’w defnyddio i’r dyfodol gan y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid;
  • ateb y galw am rhagor o unedau gwaith drwy sicrhau hawl cynllunio i godi unedau newydd ar y safle;
  • wella delwedd ac felly yr ymdeimlad o falchder bro;
  • gyfrannu tuag at dargedau Sero Net.

Edrych ymlaen

Mae'r gwaith ar y gweill gyda'r disgwyliad bydd popeth wedi ei gwblhau erbyn diwedd 2024.

 

 

 

Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Wedi'i yrru gan Ffyniant Bro

Cyngor Gwynedd

 

 

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Cyngor Gwynedd yw corff arweiniol Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru ar ran awdurdodau lleol y rhanbarth.